Mae’r 6 wythnos ddiwethaf wedi bod yn rhai prysur iawn, ac mae’n bleser gennyf ddweud bod llawer o bethau i’w rhannu â chi.

Chwaraeon Cymru

Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio ei strategaeth newydd sbon ar gyfer cyflwyno chwaraeon i Gymru. Mae hon yn strategaeth gyffrous a diddorol, gyda bwriad clir i wneud chwaraeon yn hygyrch ac ar gael i bawb, ym mhobman.

Gweledigaeth ar y cyd – cenedl egnïol lle gall pawb fwynhau chwaraeon gydol eu bywyd.

Cenhadaeth ar y cyd – rhyddhau manteision chwaraeon i bawb

Gallwch ddarllen popeth amdano yma: Yn Saesneg

Yn Gymraeg

Hwb Diogelu Chwaraeon Cymru

Mae Laura Whapham a Cerri Dando o Uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon yr NSPCC a minnau yn parhau i staffio’r Hwb Diogelu. Rydym wedi cael cyfarfod calonogol gydag un o’r asiantaethau statudol i ddatblygu’r neges ymhellach a’r angen am gydweithio rhwng y campau a’r awdurdodau. Byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i bethau ddatblygu ymhellach.

Gallwch gysylltu â’r Hwb ar 02920 334 975. Nid oes staff yn y swyddfa 24/7. Ond mae yna beiriant ateb, felly gadewch neges os na allwch chi gael gafael arnom. Gallwch hefyd anfon e-bost atom:

Ieuan.watkins@nottingham.ac.uk

Laura.whapham@nspcc.org.uk

Cerri.Dando@nspcc.org.uk

Nodyn i’ch atgoffa o amcanion yr Hwb:

  • Rhoi cyngor ac arweiniad ar ddiogelu i unigolion neu sefydliadau, ac yn arbennig i Gyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol
  • Codi proffil diogelu mewn chwaraeon, yn enwedig gydag asiantaethau statudol
  • Gweithio gyda’r Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol i gyflawni Safonau Diogelu UAPCh/Ymddiriedolaeth Ann Craft
  • Cyfeirio asiantaethau at Brif Swyddogion Diogelu o fewn Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol

Hyfforddiant Diogelu Oedolion mewn Chwaraeon am ddim

Ar 30ain Ebrill, fe gyflwynais y cyntaf o ddau fewnbwn am ddim ar ddiogelu oedolion mewn chwaraeon. Yr ail ddyddiad yw 5ed Medi ac rwy’n falch iawn o weld bod y dyddiad hwn bellach yn llawn dop.

Mae cymaint o alw felly rwyf wedi trefnu un dyddiad arall, dydd Llun 7fed Hydref, 10am tan 1pm yn ystafell Bute 1 yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru.

Gall Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol anfon dau unigolyn i unrhyw un o’r dyddiadau yn rhad ac am ddim, ond rhaid archebu lleoedd ymlaen llaw, mae’r ddolen yma.

Polisi Oedolion mewn Perygl Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol

Mae Ymddiriedolaeth Ann Craft wedi creu templed newydd mae modd ei lwytho i lawr yn rhad ac am ddim i Gyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol (neu unrhyw un arall) ei ddefnyddio.

Mae gan bob un o’r pedair gwlad gartref ddeddfwriaeth wahanol yn ymwneud ag Oedolion mewn Perygl, felly rydym wedi creu templed i ymgorffori pob un o’r pedwar darn o ddeddfwriaeth. Mae’r ddogfen wedi’i chynllunio i’w golygu fel y gellir ei gwneud yn unigryw ar gyfer pob Corff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol. Er enghraifft, os yw’r Corff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol yn cwmpasu Cymru a Lloegr, yna gellid lleihau’r

templed i gynnwys dim ond y darnau hynny o ddeddfwriaeth. Manteisiwch ar hyn, gallwch ei lwytho i lawr yma.

Rwy’n arbennig o ddiolchgar i Bowls Cymru, a fu’n helpu i ddatblygu’r templed newydd, gan ddod yn un o’r cyrff cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi’r gweithdrefnau diweddaraf.

Mae nifer o Gyrff Rheoli Chwaraeon eraill wedi cwblhau hyn neu wrthi’n ei ddatblygu (diolch i’r rhai sydd wedi cwblhau’r gwaith yma). Mae gan bob camp ddyletswydd gofal i’r rheini sy’n rhan o’u strwythur, felly cofiwch weithio tuag at greu a gwreiddio’r polisi pwysig hwn yn eich meysydd busnes. Os oes angen help arnoch, cysylltwch â mi.

Book a course or find out more

To book a course or find out more about how we can help you, get in touch today.