Mae peth amser wedi mynd heibio ers fy mlog diwethaf ym mis Mehefin lle rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i bawb am strategaeth newydd Chwaraeon Cymru.
Rydw i wedi bod yn eithaf prysur ers hynny, yn gweithio’n galed i ddatblygu Hwb Diogelu Chwaraeon Cymru ochr yn ochr â fy nghydweithwyr Laura Whapham a Cerri Dando o Uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon yr NSPCC.
Rydyn ni i gyd wedi gweld rhai o’r penawdau diweddar am gam-drin mewn chwaraeon. Mae llawer o’r ymchwiliadau sydd wedi bod yn y papurau’n ymwneud â cham-drin hanesyddol ar blant ac oedolion mewn amgylchedd chwaraeon. Yn rhai o’r ymchwiliadau hyn, efallai bod cyfleoedd i ddiogelu eraill wedi’u colli, gyda diffyg rhannu gwybodaeth a gweithio ar y cyd yn ôl pob tebyg, er mwyn rheoli risg ac atal cam-drin.
Mae chwaraeon yn darparu cyfleoedd i bawb, fel chwaraewyr, hyfforddwyr, cefnogwyr neu unrhyw rôl arall. Mae profiadau gwych i’w mwynhau a gallwn wella ein lles corfforol a meddyliol yn sylweddol drwy chwaraeon. Gall y profiadau hyn fod yn llawer iawn gwell os yw chwaraeon yn darparu amgylchedd diogel, cefnogol ac anogol.
Fy rôl i a rôl pob swyddog diogelu mewn chwaraeon yw helpu i greu’r amgylcheddau diogel a chefnogol hynny lle gall pobl gael pob cyfle i ffynnu yn eu sefyllfa chwaraeon eu hunain. Gan weithio tuag at hyn, mae Hwb Diogelu Chwaraeon Cymru wedi cytuno ar yr amcanion canlynol:
- Cyngor – Darparu cyngor a chyfarwyddyd diogelu i sefydliadau ac unigolion, ac yn benodol i Gyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol ynghylch plant ac oedolion sy’n wynebu risg mewn chwaraeon.
- Ymwybyddiaeth – Codi proffil diogelu gyda’r sector chwaraeon a gydag asiantaethau statudol.
- Safonau – Gweithio gyda Chwaraeon i gyrraedd Safonau Uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon yr NSPCC a Safonau Diogelu Ymddiriedolaeth Ann Craft.
- Cyfeirio – Cyfeirio asiantaethau at swyddogion diogelu arweiniol gyda chwaraeon.
- Hyfforddiant – Meithrin gallu a chapasiti yn y sector drwy bartneriaeth, dysgu ar y cyd, hyfforddiant a chefnogaeth gan gydweithiwr i gydweithiwr.
Gall Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol wneud byd o wahaniaeth wrth weithio gydag asiantaethau statudol o ran cefnogi ymchwiliadau gyda gwybodaeth a hefyd drwy reoli risg neu risg bosib wrth i ymchwiliadau fynd rhagddynt.
Fe wnes i a Laura Whapham gyfarfod Bwrdd Rheoli Strategol Trefniadau Amddiffyn y Cyhoedd Aml-Asiantaeth (MAPPA) Dyfed Powys y mis yma, gan roi cyflwyniad am Yr Hwb a disgrifio rhai o’r manteision sydd i’w cael wrth i gyrff rheoli chwaraeon cenedlaethol ac asiantaethau statudol weithio ar y cyd. Cafodd groeso cynnes ac rwy’n falch o ddweud ein bod ni wedi sicrhau cyfraniad pellach yng nghyfarfodydd Byrddau Rheoli Strategol MAPPA Gwent a Gogledd Cymru yn ystod y misoedd sydd i ddod.
Mae cyfraniadau pellach wedi’u trefnu hefyd gyda phartneriaid statudol mewn mannau eraill yng Nghymru wrth i ni barhau i rannu manteision cydweithredu a gweithio ar y cyd er mwyn gwneud chwaraeon mor ddiogel â phosib.
Byddwn yn fwy na pharod i siarad ag unrhyw sefydliad – statudol, chwaraeon neu fel arall – i drafod y gwaith parhaus yma.
Cysylltwch â’r Hwb ar 02920 334 975.
Hwb Diogelu Chwaraeon Cymru
Hyfforddiant Diogelu Oedolion mewn Chwaraeon Am Ddim
Mae ychydig o lefydd ar ôl o hyd i Gyrff Rheoli Cenedlaethol Chwaraeon Cymru fynychu Hyfforddiant Oedolion mewn Perygl am ddim ar 5ed Medi neu 7fed Hydref.
Rhannu hwn: