Helo bawb a diolch am stopio i ddarllen y blog yma.
Rydw i wedi bod yn fy swydd am rai misoedd nawr ac rydw i’n teimlo ’mod i’n gwneud cynnydd da gyda chodi ymwybyddiaeth o’n dyletswydd ni o ofal i Oedolion Sy’n Wynebu Risg mewn Chwaraeon yng Nghymru.
Mae dechrau yn fy rôl newydd wedi bod yn gryn her (yn enwedig gan nad oedd y rôl yn bodoli yng Nghymru cyn i mi gyrraedd!). Er bod hyn wedi bod yn heriol i ryw raddau, y realiti ydi bod gen i ddalen lân i gynllunio gwasanaeth ar gyfer Oedolion Sy’n Wynebu Risg yn y byd chwaraeon yng Nghymru – mae hwn yn gyfle gwych a chyffrous.
Mae fy swyddfa i yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, yn yr un ystafell ac yn rhannu ffôn gyda Laura Whapham a Cerri Dando o Uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon yr NSPCC. Rydw i, Laura a Cerri yn credu y dylen ni ddarparu ‘Hwb Diogelu Chwaraeon Cymru’, canolfan arbenigedd i helpu holl Gyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol Cymru gydag unrhyw ymholiadau diogelu perthnasol i blant neu oedolion. O ran Oedolion Sy’n Wynebu Risg, mae hyn yn dechrau dwyn ffrwyth, gyda sawl galwad/neges yn holi am faterion rheoli achosion penodol ac rydw i wedi gallu rhoi help a chymorth.
Mae gen i sedd yn awr fel rhan o Grŵp Diogelu Chwaraeon Strategol Cymru. Mae’r Grŵp yma’n cynnwys uwch arweinwyr diogelu o gyrff chwaraeon a chyrff eraill, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a’r byd addysg, pawb â gwybodaeth ac arbenigedd penodol yn y maes diogelu. Mae pedair ffrwd waith glir yn rhan o’r Grŵp – Hyfforddiant, Perthnasoedd, Chwaraeon Elitaidd ac, yn bwysig iawn, Oedolion Sy’n Wynebu Risg. Er mai dim ond un cyfarfod sydd wedi’i gynnal ers i mi gyrraedd, mae cyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth yma.
Un cam pwysig i bob Corff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol yng Nghymru yw cael Polisïau Oedolion Sy’n Wynebu Risg clir ar gyfer eu hardaloedd. Mae Ymddiriedolaeth Ann Craft yn argymell gosod y polisïau hyn ar wahân i bolisïau amddiffyn plant gan eu bod yn feysydd busnes tra gwahanol (dolen). Rydw i wedi bod yn gweithio gyda llawer o Gyrff Rheoli Cenedlaethol i ddatblygu eu polisïau a’u gweithdrefnau pwrpasol.
Fel erioed, mae deddfwriaeth yn hynod bwysig, gyda pholisïau’n cael eu llunio’n unol â chyfraith gwlad. Yn Lloegr, mae Deddf Gofal 2014 yn darparu fframwaith diogelu ar gyfer Oedolion Sy’n Wynebu Risg. Hefyd mae gan Loegr y ddogfen Working Together (dolen). Yng Nghymru, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dolen) sy’n llywodraethu. Felly, rhaid i bolisïau/gweithdrefnau newydd ar gyfer Cyrff Rheoli Cenedlaethol Cymru gael eu llunio’n seiliedig ar ein deddfwriaeth leol. Mae Ymddiriedolaeth Ann Craft yn darparu templed ar ein gwefan y gall chwaraeon ei lawrlwytho a’i addasu i’w strwythurau. Rydyn ni wedi diwygio’r templed yn ddiweddar i sicrhau ei fod yn cynnwys holl ddeddfwriaeth y DU, gan ystyried y cyfreithiau yn yr holl wledydd cartref. Mae’r templed ar gael yma (dolen).
Wedi dweud hynny, dydw i ddim yn disgwyl i Gyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol fod yn arbenigwyr ar ddeddfwriaeth, ond defnyddiwch y templedi a chreu eich polisïau eich hunain – os bydd arnoch angen arweiniad neu gefnogaeth arbenigol, cysylltwch â Laura, Cerri neu fi yn ‘Hwb Diogelu Chwaraeon Cymru’ ar 02920 334975, neu mae posib cael gafael arnaf i ar fy rhif symudol 07731 624598 neu ar e-bost ieuan.watkins@nottingham.ac.uk
Dydd Mawrth 30ain Ebrill, 10am – 1pm
Diogelu Oedolion Sy’n Wynebu Risg Mewn Chwaraeon ar gyfer Cyrff Rheoli Cenedlaethol
Archebwch yma (dolen)
Dydd Iau 5ed Medi, 10am – 1pm
Diogelu Oedolion Sy’n Wynebu Risg Mewn Chwaraeon ar gyfer Cyrff Rheoli Cenedlaethol
Archebwch yma (dolen)