Ar y 30ain o Ebrill, fe wnes i gynnal y cyntaf o ddwy seminar Oedolion yn Wynebu Risg mewn Chwaraeon ar gyfer Cyrff Rheoli Cenedlaethol Cymru. Daeth 23 o bobl o 17 o wahanol gyrff rheoli i’r seminar. Profodd y mewnbwn yn boblogaidd iawn gyda’r llefydd yn llenwi’n gyflym. Mae cwrs pellach, am ddim, wedi cael ei drefnu ar gyfer y 5ed o Fedi, ac mae’r llefydd yn llenwi’n gyflym, felly archebwch eich lle yma (LINK).

Hefyd ym mis Ebrill, derbyniodd rhaglen Llwybr Elitaidd Chwaraeon Cymru ddau fewnbwn arbenigol, gan Nick Slinn o’r Uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon a minnau. Roedd y mewnbwn yn canolbwyntio ar y risgiau uwch i blant ac oedolion mewn chwaraeon, ac yn enwedig i athletwyr elitaidd ar lwybrau chwaraeon. Mae gan bob corff rheoli cenedlaethol ddyletswydd o ofal i’r rhai yn eu strwythur. Mae cael polisïau a gweithdrefnau’n rhan o’r ddyletswydd honno ac yn rhan o’r ymbarél diogelu mewn chwaraeon. Un peth sy’n allweddol i sicrhau bod y ddyletswydd diogelu’n gweithio’n weithredol yw i’r bobl yn y strwythurau ddeall, cydnabod ac ymateb i bryderon. Mae’r  Uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon ac Ymddiriedolaeth Ann Craft yn edrych yn awr ar sut i ddarparu hyfforddiant rheoli achosion arbenigol ar gyfer y llwybr elitaidd yng Nghymru.

Mae Hwb Diogelu Chwaraeon Cymru’n weithredol yn awr gydag ‘arbenigwyr’ diogelu’n staff yno, sef Laura Whapham a Cerri Dando o Uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon yr NSPCC a minnau. Rydyn ni i gyd yn barod i helpu gyda phopeth perthnasol i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn chwaraeon. Er mai cefnogi Cyrff Rheoli Cenedlaethol yw prif nod y tîm, rydyn ni hefyd yn awyddus i helpu unrhyw un sydd â phroblem diogelu yn y byd chwaraeon yng Nghymru. Yn benodol, mae asiantaethau statudol, gan gynnwys yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Byrddau Diogelu a thimau Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael eu hannog i weld ‘Yr Hwb’ fel eu pwynt cyswllt ar gyfer chwaraeon. Er nad oes staff yn y swyddfa 24/7, mae cyfleuster peiriant ateb ar gael – 02920 334975, felly gadewch neges os nad ydych chi’n gallu cael gafael arnom ni, neu anfon e-bost i…

Ieuan.watkins@nottingham.ac.uk

Laura.whapham@nspcc.org.uk

Cerri.Dando@nspcc.org.uk

Book a course or find out more

To book a course or find out more about how we can help you, get in touch today.